Rhif y ddeiseb: P-05-949

Teitl y ddeiseb: ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Cynnwys y ddeiseb: Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y Bont-faen, Bro Morgannwg. Hon oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i gael ei hadeiladu yn benodol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru (a Lloegr), ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w ddymchwel.  Byddai methu ei gwarchod yn arwain at golli adeilad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol.

Wedi'i hagor ym 1896, ysgol ganolradd merched y Bont-faen oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i ferched gael ei hadeiladu yng Nghymru (a Lloegr) o ganlyniad i Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889, a oedd ynddo'i hun yn foment bwysig yn Hanes Cymru. Ymysg ei gyfoeswyr, roedd ysgol y Bont-faen yn hynod anghyffredin o ran cynnwys llety i rai o'r disgyblion o'r cychwyn ac am gael ei ariannu i raddau helaeth gan ddyngarwr lleol.

Mae cymeriad gwreiddiol yr ysgol wedi goroesi i radd uchel iawn, yn allanol a thŷ mewn, gan gynnwys y neuadd a grisiau gwreiddiol. Dim ond 5 ysgol gymharol (o 95) sydd wedi'u rhestru ledled Cymru. Mae arolwg ohonynt i gyd yn cadarnhau fod ysgol y Bont-faen wedi goroesi i raddau cyfatebol i rai a gwell nag eraill.

Roedd y pensaer, Robert Williams, yn arloeswr ei gyfnod ac yn enwog am fod yn un radical. Roedd yn flaengar wrth annog cadwraeth adeiladau, yn arloeswr cenedlaethol o ran tai cymdeithasol, hybodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru a hyrwyddodd cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Yn ddiweddarach yn ei yrfa aeth i weithio i deulu Davies Bryan yn Llundain ac yna'r Aifft, lle mae llawer o'i adeiladau yn dal i sefyll ac wedi'u gwarchod yn genedlaethol.

Mae cyn 'Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen' wedi goroesi fel tystiolaeth amlwg a deniadol o gyfnod pwysig yn hanes Cymru pan ddarparwyd cyfleoedd cyfartal i ferched difreintiedig yr oes.  Rydym yn annog Llywodraeth Cymru, fel ceidwaid ein treftadaeth, i amddiffyn yr adeilad hwn, unai drwy ei restru neu ddarparu cyllid tai cymdeithasol ychwanegol i alluogi ei drawsnewid.

 


1.     Y cefndir

Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r system restru i warchod yr adeilad hwn. Rhestru yw'r ffordd y caiff adeilad neu strwythur o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ei gydnabod gan y gyfraith. Mae newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu rheoli drwy weithdrefn caniatâd adeiladau rhestredig, sy'n rhan o'r system gynllunio. Bwriad rhestru yw helpu i reoli newid a gwarchod yr adeilad, ei leoliad a'i nodweddion rhag gwaith anghydnaws a allai niweidio ei  ddiddordeb arbennig.

Mae llawer o adeiladau sydd o ddiddordeb o safbwynt pensaernïol neu'n hanesyddol, ond er mwyn i adeiladau gael eu rhestru, rhaid i'r diddordeb hwn fod yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Nodyn Cyngor Technegol 24: yr amgylchedd hanesyddol, sy'n darparu'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer rhestru. Yn gryno, y prif feini prawf yw:

§  Ddiddordeb pensaernïol.

§  Diddordeb hanesyddol.

§  Cysylltiadau hanesyddol agos.

§  Gwerth fel grŵp.

§  Oedran a phrinder.

Gall unrhyw un ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried adeilad ar gyfer statws rhestredig. Fodd bynnag, fel y mae'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r deisebydd yn nodi, nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â rhestru adeilad, er y gallai unigolyn wneud cais am adolygiad barnwrol pe bai'n teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dilyn y broses gywir.

Moderneiddiwyd y ddeddfwriaeth sy'n sail i'r drefn adeiladau rhestredig gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Cyflwynodd y Ddeddf hawl i gael adolygiad o benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i restru adeilad, ond ni chyflwynwyd hawl gyfatebol i gael adolygiad o benderfyniad i beidio â rhestru adeilad. Gallwch ddarllen mwy am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig – gan gynnwys newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol – yma.

Yn ogystal â'r rhestr genedlaethol, gall rhestru lleol fod yn ffordd o warchod adeiladau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer statws rhestredig ond sy’n chwarae rôl hollbwysig o ran cynnal cymeriad lleol ac ymdeimlad o le. Gall awdurdodau cynllunio lleol lunio rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig. Mae Cadw wedi cyhoeddi Rheoli rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig.

Mae'r ddogfen hon yn nodi egwyddorion cyffredinol ac arferion da ar gyfer paratoi a rheoli rhestrau o asedau hanesyddol lleol ac mae’n rhoi canllawiau ar sut i'w defnyddio yn y system gynllunio. Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu'n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol, ond hefyd at sefydliadau'r trydydd sector a pherchnogion asedau hanesyddol. Mae llunio rhestr o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig yn wirfoddol, ond pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn dewis nodi'r asedau hyn, rhaid iddo gynnwys polisïau ar gyfer eu gwarchod a'u gwella yn ei gynllun datblygu.

 

2.     Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2017 cynhaliodd  Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i’r amgylchedd hanesyddol. Ni wnaeth unrhyw argymhellion i newid y system restru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.